Bydd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn cynnal gweminar sy’n trafod materion sy’n ymwneud â gofal dementia a’r Gymraeg.
Mae Cynllun Gweithredu Dementia 2018-2022 yn cydnabod yr angen clinigol ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n byw gyda dementia dderbyn gofal a chymorth yn eu dewis iaith. Wrth i'w cyflwr ddatblygu, efallai y bydd cyfathrebu'n fwy heriol i bobl â dementia.
IAITH: Yn ddiweddar dyfarnwyd cytundeb gan Lywodraeth Cymru i Ganolfan Cynllunio Iaith Cymru a Phrifysgol Bangor i gasglu gwybodaeth am yr asesiadau dementia sydd ar gael yn y Gymraeg a’u defnydd ar draws Cymru.
Ar y weminar, bydd y siaradwyr yn rhannu eu harbenigedd a’u profiadau o’r Gymraeg a dementia. Mae’r rhain yn cynnwys Katheryn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr IAITH: Canolfan Cynllunio Iaith Cymru, Beti George, cyn-ofalwr ei phartner ac ymgyrchydd, Huw Owen, Swyddog Polisi Cymdeithas Alzheimer Cymru, a’r Ymchwilwyr Hanna Thomas, Conor Martin Angharad Higgins a Catrin Hedd - Jones.
“Mae iaith a diwylliant yn gorgyffwrdd yn fawr, gyda goblygiadau posibl i lesiant pobl â dementia (PWD) sy’n derbyn gofal yn eu ‘hail’ iaith neu ddiwylliant.”
Mae CADR yn awyddus i gefnogi’r ymchwil hwn i sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael gofal yn eu dewis iaith.
Dywedodd Gill Windle, Cyfarwyddwr Cyswllt CADR ac Athro Ymchwil Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Bangor, ‘‘Mae’n ofynnol i Iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn Gymraeg drwy’r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Mae darparu’r agwedd hanfodol hon ar ddarparu gofal yn hanfodol i alluogi cyfathrebu effeithiol a chefnogi pobl sy’n byw gyda dementia yng Nghymru i fyw cystal â phosibl.”
Nod CADR yw gwella bywydau pobl hŷn drwy ymchwil, polisi ac ymarfer ac fe’i cefnogir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae gwella hygyrchedd i wasanaethau dementia i siaradwyr Cymraeg drwy ymchwil fel hyn yn hynod bwysig, ac rydym yn falch o gefnogi’r mudiad hwn gyda thrafodaeth gweminar. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â syniadau am ofal dementia a’r iaith Gymraeg i gymryd rhan.”
Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer y gweminar a gynhelir ar 25ain o Ionawr 2022 am hanner dydd.
Am wybodaeth bellach neu i ofyn am gyfweliad cysylltwch gydag arweinydd y webinar Dr Catrin Hedd Jones 01248 388872/ [email protected].
Atgoffir yn garedig, i unrhyw un sy’n dymuno cyhoeddi’r datganiad i’r wasg i ddilyn y canllawiau ar iaith yn y ddolen isod sydd wedi’u datblygu gan bobl sy’n byw gyda dementia er mwyn osgoi unrhyw ofid neu niwed anfwriadol drwy ddefnyddio iaith amhriodol: https://www.dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/DEEP-Guide-Language.pdf